Croeso i Wefan y Grŵp Coedwigaeth Gydnaws â Natur (GCGN) |
Prif swyddogaeth y GCGN yw hyrwyddo trawsnewid planigfeydd unoed yn goetiroedd sy’n amrywiol o safbwynt adeileddol, gweledol a biolegol. Rydym hefyd yn anelu at wella’r modd y cynhyrchir coed o ansawdd uchel yn ôl egwyddorion rheolaeth gorchudd di-dor. Rydym yn gorff technegol a phroffesiynol sy’n ymroddedig i ddatblygu sgiliau a lledaenu gwybodaeth. Hefyd, byddwn yn cyfrannu at lunio polisi a dadleuon ehangach ynghylch coedwigaeth gynaliadwy ym Mhrydain.
Mae’r GCGN yn aelod o Pro Silva, ffederasiwn o gyrff coedwigaeth sy’n ymroddedig i hybu systemau coedwriaethol cydnaws â natur.
Mae’r GCGN yn grŵp cyfeillgar a deinamig, sydd â’i aelodau wrth y llyw ac yn cymryd diddordeb mewn coedwriaeth a choedwigaeth gynaliadwy. Rydym yn croesawu aelodau newydd sy’n rhannu ein gwerthoedd ac a hoffai roi technegau newydd ar waith mewn rheoli coedwigoedd. Mae’r GCGN yn cynnig ystod gyffrous o fuddion i aelodau.
Bydd aelodau’n cael bwletinau ebost i’w cadw’n hysbys o ddigwyddiadau a manylion bwcio.
Drwy gydol y flwyddyn bydd y GCGN yn rhedeg amrywiaeth o gyfarfodydd maes, gweithdai, a chynhadledd flynyddol. Mae cyfarfodydd maes yn agored i aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau, ac mae anogaeth gref i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn rheoli coetiroedd yn gynaliadwy ddod iddynt (yn ddi-dâl).