Buddion Ymuno â’r GCGN

 

Mae’r GCGN yn grŵp cyfeillgar a deinamig, sydd â’i aelodau wrth y llyw ac yn cymryd diddordeb mewn coedwriaeth a choedwigaeth gynaliadwy. Rydym yn croesawu aelodau newydd sy’n rhannu ein gwerthoedd ac a hoffai roi technegau newydd ar waith mewn rheoli coedwigoedd. Mae’r GCGN yn cynnig ystod gyffrous o fuddion i aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau.

 


Buddion i Aelodau:

  • Rhaglen lawn o gyfarfodydd maes a gweithdai, a gynhelir ym mhob rhanbarth o Brydain a mewn ystod eang o fathau o goetir
  • Dau gylchlythyr bob blwyddyn, sydd ar gael ar ffurf pdf yn adran aelodau’r wefan. Dyma sampl fach o un o Gylchlythyrau blaenorol y GCGN o fis Chwefror 2020:
  1. Chairs Report – Bill Mason
    Lawrlwytho (229 KB )
  2. England Visit to Thetford – Cameron Williams & John Tewson
    Lawrlwytho (911 KB )
  3. Scotland Visit to Craigvinean – Chris Tracey
    Lawrlwytho (1,487 KB )
  4. Wales Visit to St Pierre’s Great Wood – Laura Shewring & Phil Morgan
    Lawrlwytho (1,556 KB )
  5. Pro Silva Europe 2019 AGM to Slovenia – Will Baxter & Chris Tracey
    Lawrlwytho (3,659 KB )
  6. CCF in Ohio – Jim Gresh & Ed Romano
    Lawrlwytho (1,312 KB )
  7. CCF in Ireland – Edward Wilson, Padraig O’Tuama & Jonathan Spazzi
    Lawrlwytho (1,267 KB )
  8. Lessons from Implementing CCF at Wykeham – Jon Bates & Graham Jackson
    Lawrlwytho (1,491 KB )
  9. CCFG Events 2020
    Lawrlwytho (258 KB )
  10. Committee Members 2020
    Lawrlwytho (167 KB )
  11. Welcome to New Members
    Lawrlwytho (157 KB )
  12. Bits & Pieces
    Lawrlwytho (209 KB )
  • Diweddariadau newyddion ysbeidiol drwy ebost â’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd, gweithdai a datblygiadau eraill o fewn y GCGN
  • Mynediad at adran i Aelodau ar y wefan, sy’n cynnwys gwybodaeth archifol, offerynnau defnyddiol, eitemau i’w lawrlwytho, rhifynnau blaenorol o gylchlythyr y GCGN a Llyfryddiaethau CGD sy’n cyfeirio at gyhoeddiadau perthnasol
  • Cyfle i ddod ar ymweliadau maes yn ddi-dâl a ffïoedd gostyngol am ddigwyddiadau
  • Teithiau astudio tramor
  • Cyfle i gymryd rhan mewn cynadleddau a digwyddiadau gan ProSilva Ewrop

Buddion i Rai nad ydynt yn Aelodau:

  • Mynediad di-dâl at y wefan i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau, seminarau a gweithdai ymarferol
  • Cyfle i ddod ar ymweliadau maes fel Gwestai am £15
  • Mynediad at ystod o gyhoeddiadau a dolenni gwe sy’n berthnasol i goedwigaeth a CGD, a rhestr o Ymgynghorwyr/Ymarferwyr CGD