Egwyddorion Rheolaeth Gorchudd Di-dor


Addasu’r goedwig yn ôl y safle

Ceisio gweithio gyda’r safle a pharchu prosesau ecolegol ac amrywiaeth gynhenid y bydd CGD, yn hytrach na gosod unffurfedd artiffisial. Yn ymarferol bydd hyn yn arwain at ragdybiaeth o blaid defnyddio aildyfu naturiol a datblygu cellïoedd sy’n gymysg o ran rhywogaethau ac oedran.

Mabwysiadu ymagweddiad cyfannol at reoli coedwigoedd

Bydd CGD yn gweld ecosystem y goedwig fel cyfalaf cynhyrchiant y goedwig. Mae hyn yn cynnwys y pridd, microhinsawdd y goedwig, ffyngoedd, fflora a ffawna cysylltiedig yn ogystal â’r coed eu hunain. Bydd rheolaeth er mwyn cynhyrchu coed yn anelu at greu, cynnal ac atgyfnerthu ecosystem weithredol yn hytrach na chreu a llwyrgwympo cnydau unigol o goed yn ysbeidiol.

Cynnal amodau coedwig ac osgoi llwyrgwympo

Mae CGD yn gweld cynnal amodau coedwig fel offeryn hanfodol mewn cyflawni ei hamcanion. Mae’r defnydd o droshaen i ddylanwadu ar faint o oleuni sy’n cyrraedd llawr y goedwig, i gyfyngu ar lystyfiant ar y ddaear, i ysgogi aildyfu ac wedyn i reoli ei ddatblygiad yn hollbwysig. Os ceir llwyrgwympo, collir amodau coedwig, lleiheir y buddion a ddaw o gysgod a bydd aildyfu’n mynd yn anos.

Y stoc tyfu

Dan reolaeth CGD, bydd gweithrediad i wella cellïoedd yn canolbwyntio ar ddatblygu unigolion a ffefrir yn hytrach na chreu bloc o gyffion â phellter unffurf rhyngddynt a nodweddion cyffredin i’r cyffion. Bydd trin unigolion neu grwpiau o gyffion yn digwydd o fewn cyd-destun holl stoc tyfu’r gelli, a maint a chyfansoddiad honno’n cael eu llywio i gael y gyfradd aildyfu a ddymunir ac i gynhyrchu’r ystod ofynnol o gynhyrchion coed. Nodwedd sy’n perthyn i gellïoedd sy’n barhaol afreolaidd yw bod rheoli cynnyrch yn cael ei seilio ar fesuriadau o ddiamedr a chynyddiad cyffion yn hytrach nag arwynebedd ac oedran.

Adeiledd cellïoedd

Teimla’r GCGN y bydd coedwigoedd Prydeinig a reolir yn unol â’r egwyddorion a ddisgrifir uchod, at ei gilydd, yn datblygu adeiledd sy’n barhaol afreolaidd ar lefel yr adran dros gyfnod maith. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, y mae’n ansicr a ddatblyga adeileddau parhaol afreolaidd mewn cellïoedd sydd wedi’u cyfansoddi’n gyfan gwbl o rywogaethau sy’n mynnu llawer o olau neu mewn rhai mathau penodol o goedwigoedd ucheldirol. Mewn achosion felly, bydd cyfraddau uwch o aflonyddu naturiol yn arwain at frithwaith o adeileddau, y gall fod rhai ohonynt yn cynnwys bylchau aildyfu o faint sylweddol. Efallai y bydd y broses drawsnewid, sef y cyfnod cychwynnol pan roddir egwyddorion CGD ar waith mewn cellïoedd unoed, yn cynnwys elfennau unoed hefyd, naill ai drwy’r defnydd o lwyrgwympo ar raddfa fechan neu drwy fabwysiadu systemau coed cysgodol.