Digwyddiadau’r GCGN

 

Croeso i dudalen Digwyddiadau’r GCGN. Os byddwch yn defnyddio Google Calendar ac os hoffech ychwanegu ein calendr digwyddiadau ni at eich calendr eich hun, fe gewch ddolen i’n Google Calendar ni ar y dde.

Bydd y GCGN yn rhedeg tri ymweliad maes bob blwyddyn yn Lloegr, yr Alban a Chymru. Mae cyfarfodydd maes yn agored i aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau, ac mae anogaeth gref i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn rheoli coetiroedd yn gynaliadwy ddod iddynt (yn ddi-dâl). Caiff manylion llawn a thaflenni i’w lawrlwytho ar gyfer pob digwyddiad eu postio ar y wefan wrth i drefniadau gael eu cadarnhau. Bydd aelodau hefyd yn cael bwletinau e-bost o bryd i’w gilydd i’w cadw’n hysbys o drefniadau.

Bydd y GCGN hefyd yn trefnu taith astudio dramor fel arfer bob yn ail flwyddyn ac o bryd i’w gilydd bydd yn cysylltu â grwpiau a sefydliadau eraill i ddarparu cynadleddau a hyfforddiant. Defnyddiwch y ddewislen ar y dde i chwilio ein digwyddiadau yn ôl categori.

I gadw lle mewn unrhyw un o’n digwyddiadau neu i gael ychwaneg o wybodaeth anfonwch e-bost i administrator@ccfg.org.uk.

 


Map Digwyddiadau’r GCGN

Mae’r map Google isod yn dangos lleoliadau cyfarfodydd maes a fu gan y Grŵp Coedwigaeth Gydnaws â Natur. Caiff y map hwn ei ddiweddaru’n gyson i gynnwys lleoliadau digwyddiadau newydd y GCGN. Mae Aelodau’r GCGN yn cael mynediad at y map hwn â dolenni’n arwain at ein hadroddiadau ar ddigwyddiadau. Os ydych yn aelod, mewngofnodwch i Adran yr Aelodau i gael hyd i fersiwn cyflawn y map hwn. Os hoffech gael mynediad at fersiwn cyflawn y map hwn, ymaelodwch â’r GCGN, os gwelwch yn dda, ac fe gewch fynediad at ein Hadran Aelodau.




Adran Aelodau

Ymunwch â GCGN