about us   

Gwybodaeth am y GCGN

 

Prif amcan y Grŵp Coedwigaeth Gydnaws â Natur yw hyrwyddo trawsnewid planigfeydd unoed yn goedwigoedd sy’n amrywiol o safbwynt adeileddol, gweledol a biolegol, lle ymgymerir â chynhyrchu coed o ansawdd uchel yn gynaliadwy gan roi ar waith egwyddorion rheolaeth gorchudd di-dor. Bydd Coedwigaeth Gorchudd Di-dor neu Reolaeth Coedwigoedd Gydnaws â Natur yn cynhyrchu coedwigoedd lle cynhelir stoc tyfu parhaol a lle diddymir cynyddiad mewn ymyriadau cylchol.

Sylfaenwyd y Grŵp ar ôl cyfarfod yn Longleat ar 13 o Fawrth 1991, ac er y pryd hynny y mae’n ceisio codi ymwybyddiaeth drwy ddarparu gwybodaeth a hyfforddiant ar ddulliau a gweithrediad y systemau coedwriaethol effaith isel y mae eu hangen mewn rheoli CGD.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y GCGN; pwy ydym ni, yr hyn a wnawn, beth yw CGD a beth yw’r buddion, gweler ein taflen.

Mae’r Grŵp yn croesawu fel Aelodau unrhyw unigolion neu gyrff sydd â diddordeb. Mae’r Grŵp yn cynnig y buddion canlynol i’w aelodau:

  • Rhaglen flynyddol o ymweliadau â safleoedd yn y DU
  • Teithiau astudio tramor
  • Cylchlythyr llawn gwybodaeth, a lawrlwythir o’r wefan
  • Gweithdai ymarferol
  • Rhwydweithio o fewn y DU a thramor, a ffynhonnell profiad ymarferol